Facebook Pixel
Skip to content

Newyddion a digwyddiadau

Chwilio am newyddion a digwyddiadau

Math

Newyddion lleol a digwyddiadau

Ein brif straeon a digwyddiadau

News 13 Awst 2025

CITB yn lansio’r Rhwydwaith Darparwyr Hyfforddiant i drawsnewid y ddarpariaeth hyfforddiant adeiladu

Bydd y rhwydwaith o ddarparwyr hyfforddiant yn trawsnewid y ffordd y caiff hyfforddiant adeiladu ei ddarparu ledled Prydain Fawr drwy gydweithrediad gwirioneddol, cefnogaeth benodol, a mewnwelediadau wedi’u harwain gan gyflogwyr. Mae Bwrdd Hyfforddi’r Diwydiant Adeiladu (CITB) wedi lansio ei Rhwydwaith Darparwyr Hyfforddiant (TPN) heddiw – a fydd yn rhwydwaith sengl o ddarparwyr hyfforddiant cymeradwy, wedi’u sicrhau o ran ansawdd, ar draws Lloegr, yr Alban a Chymru.

CITB yn hyrwyddo recriwtio cynhwysol drwy lwyddiant prosiect Mind the Gap

Mae’r prosiect wedi creu dros 170 o gyfleoedd gwaith i bobl ag euogfarnau, gan gynhyrchu gwerth cymdeithasol o dros £3.5 miliwn Mae Bwrdd Hyfforddi’r Diwydiant Adeiladu (CITB) wedi cyhoeddi canlyniad yr astudiaeth effaith gymdeithasol annibynnol ar y rhaglen ‘Mind the Gap’, a gyflwynwyd yn llwyddiannus. Dyluniwyd y rhaglen i agor llwybrau newydd i unigolion ag euogfarnau i fynd i mewn i’r diwydiant adeiladu – gan helpu i fynd i’r afael â phrinder sgiliau yn y sector wrth gefnogi symudedd cymdeithasol.

CITB yn lansio prosiect diogelwch adeiladau i uwchsgilio gweithwyr ffasadau

Mae’r prosiect gwerth £250,000 yn anelu at uwchsgilio dros 100 o osodwyr system ffasâd sgrîn glaw a 24 o oruchwylwyr. Mae Bwrdd Hyfforddi’r Diwydiant Adeiladu (CITB) wedi lansio prosiect gwerth £250,000 heddiw i uwchsgilio 100 o osodwyr system ffasâd sgrîn glaw a 24 o oruchwylwyr er mwyn cyflymu’r gwaith adfer sydd ei angen ledled y wlad.

CITB yn cefnogi rhaglen gymorth hunanladdiad newydd ochr yn ochr â GIG Cymru

Mae Bwrdd Hyfforddi'r Diwydiant Adeiladu (CITB) wedi partneru â Rhaglen Atal Hunanladdiad a Hunan-niwed GIG Cymru i gyflwyno ymgyrch ar draws safleoedd adeiladu yng Nghymru sy'n codi ymwybyddiaeth o hunanladdiad ac yn cyfeirio pobl at y gefnogaeth sydd ar gael.

Coleg Adeiladu Cenedlaethol CITB yn agor ei ddrysau i gyflogwyr adeiladu yn yr Alban

Mae Bwrdd Hyfforddi’r Diwydiant Adeiladu (CITB) yn agor ei ddrysau yn ei Goleg Adeiladu Cenedlaethol (NCC) yn Inchinnan, yr Alban, i gyflogwyr adeiladu yn yr Alban ar gyfer digwyddiad undydd yn unig sy’n arddangos y genhedlaeth nesaf o dalent a hyfforddiant yn y crefftau.

Cyngor dinas Preston yn ymuno â Fframwaith Academi Sgiliau Cenedlaethol

Mae Cyngor Dinas Preston wedi llofnodi cytundeb gyda Bwrdd Hyfforddi'r Diwydiant Adeiladu (CITB), gan ymrwymo i ddefnyddio Fframwaith Academi Sgiliau Cenedlaethol ar gyfer Adeiladu (NSAfC) ar draws ei holl brosiectau.

Y gorau a’r mwyaf disglair ym maes adeiladu: Cyhoeddi’r unigolion sydd wedi cyrraedd Rownd Derfynol Genedlaethol SkillBuild 2025

Cyhoeddwyd yr hyfforddeion a’r prentisiaid adeiladu gorau o bob cwr o’r DU yn dilyn Rhagbrofion Rhanbarthol SkillBuild eleni. Mae’r holl unigolion a gyrhaeddodd y brig yn y Rhagbrofion Rhanbarthol bellach yn symud ymlaen i Rownd Derfynol Genedlaethol SkillBuild 2025 ym mis Tachwedd yn ddiweddarach eleni.

Cyhoeddi rhestr fer ar gyfer Gwobrau 100 o Fenywod Mwyaf Dylanwadol mewn Adeiladu 2025

Heddiw, mae Bwrdd Hyfforddi’r Diwydiant Adeiladu (CITB) yn cyhoeddi’r rhestr fer ar gyfer Gwobrau 100 o Fenywod Mwyaf Dylanwadol mewn Adeiladu 2025. Gan ddychwelyd am y bedwaredd flwyddyn, mae’r gwobrau’n parhau i dynnu sylw at gyfraniadau sylweddol menywod o bob rhan o'r diwydiant adeiladu ac yn arddangos menywod yn y sector er mwyn gwneud modelau rôl yn fwy gweladwy a hygyrch.

Cytundeb CITB a'r Adran Gwaith a Phensiynau i gefnogi cyfleoedd gyrfa yn y diwydiant adeiladu

Bydd cytundeb newydd a lofnodwyd gan Fwrdd Hyfforddi’r Diwydiant Adeiladu (CITB) a’r Adran Gwaith a Phensiynau yn galluogi miloedd o bobl i elwa o hyfforddiant ar y swydd a chyfleoedd gyrfa yn y sector adeiladu.

CITB yn ymuno ag arweinwyr y diwydiant ar gyfer cyfarfod cyntaf Bwrdd y Genhadaeth Sgiliau Adeiladu

Ymunodd Bwrdd Hyfforddi'r Diwydiant Adeiladu (CITB) â'i gyd-aelodau yng nghyfarfod cyntaf Bwrdd y Genhadaeth Sgiliau Adeiladu heddiw - gan osod strategaeth ar gyfer recriwtio 100,000 o weithwyr ychwanegol y flwyddyn erbyn diwedd y Senedd hon.