Facebook Pixel
Skip to content

Sammy yn anelu am yr aur yn SkillBuild

Mae Sammy Young, sy’n oedolyn sy’n dysgu, wrth ei bodd â gwaith coed.

“Rwy’n mynd i gysgu yn meddwl am ystafelloedd, rwy’n deffro’n meddwl am saernïaeth”, meddai’r prentis ysbrydoledig ym maes gwaith coed a saernïaeth.

Enillodd Sammy, sy'n 43 oed ac yn fam i dri, y fedal arian yn rowndiau terfynol cenedlaethol WorldSkills UK yn 2021, ac mae hi'n anelu at fynd un cam yn well yr Hydref yma.

Ym mis Tachwedd, bydd hi'n cystadlu am y fedal aur yn erbyn y goreuon yn y maes gwaith coed yn SkillBuild, sef digwyddiad a ddisgrifiwyd fel “Gemau Olympaidd y byd adeiladu yn y DU”.

Yn y cyfamser, ar adeg o’r flwyddyn pan fo llawer o bobl yn ystyried dychwelyd i ddysgu, mae gan Sammy eiriau calonogol i oedolion sy’n dysgu.
“Fy nghyngor i unrhyw un sy’n ystyried mynd yn ôl i fyd addysg neu newid eu gyrfa ydy mynd amdani!

“Mae gen i’r ffocws, y ddisgyblaeth a’r gallu i ganolbwyntio nad oedd gen i pan oeddwn i’n iau. Mae’n fendigedig a dydw i byth eisiau rhoi’r gorau i ddysgu.”

Hapus

Mae Sammy’n dod o Lundain yn wreiddiol ond yn byw yn ne Cymru ers 17 mlynedd, ac roedd hi wrth ei bodd â gwaith coed yn yr ysgol ond fel llawer o bobl eraill, wnaeth pethau ddim mynd yn ôl y bwriad ar ôl gadael yr ysgol.

Ond ers dychwelyd i fyd saernïaeth, dywed Sammy, sy’n ymdopi â llawer o dasgau mewn bywyd prysur, ei bod wedi dod o hyd i’w “lle hapus” drwy’r byd addysg oedolion.

“Pan oeddwn i yn yr ysgol, roeddwn i’n anhygoel mewn gwaith coed ac roeddwn i'r gorau yn y dosbarth drwy gydol y cyfnod, ond yna digwyddodd pethau eraill ac anghofiais mai dyna roeddwn i wrth fy modd yn ei wneud,” meddai.

“Fe wnes i gofrestru ar gwrs gwaith coed ar fyr rybudd ac yn ystod yr wythnos gyntaf roeddwn i’n gwybod mai dyna roeddwn i fod i’w wneud. Dyna’r peth gorau wnes i erioed, a’r unig beth rydw i wedi canolbwyntio arno”.

Yn ôl Sammy, mae gwaith coed yn fath o gelfyddyd iddi. Mae ganddi agwedd greadigol at ei gwaith.

“Dydw i ddim yn meddwl am ddim byd arall. Ochr ymarferol i gelf ydy gwaith coed; rydw i’n gwneud popeth yn reddfol ac mae gwneud pethau hardd yn fy ngwneud i’n hapus.

“Rydw i’n fam sengl i dri o blant, felly mae bywyd bob amser yn brysur. Yn ogystal â hynny, rydw i’n hunangyflogedig ac mae gen i lawer o swyddi i gefnogi ein teulu. Dydy hi ddim bob amser yn hawdd ac mae fy mywyd yn brysur iawn heb sôn am y coleg, felly pan fydda i’n dod i’r coleg, mae’n lle tawel, braf a hapus i mi”.

Pwerus

Roedd cymryd rhan yn y gystadleuaeth SkillBuild, ac ennill y fedal arian yn y rowndiau terfynol cenedlaethol y llynedd, wedi galluogi Sammy i gael swydd mewn gweithdy saernïaeth, gan ymgymryd â chomisiynau ar gyfer prosiectau treftadaeth a phrosiectau arbennig.

“Rwy’n arbennig o hoff o’r tasgau a’r dyluniadau mwy heriol, yn enwedig lluniadu a geometreg,” meddai Sammy.

“Rwyf hefyd yn hoffi profi fy hun ac yn mwynhau’r sesiynau hyfforddi i fireinio sgiliau penodol”.

Mae Sammy, myfyriwr llawn amser yng Ngholeg Castell-nedd, wedi bod yn astudio dau gwrs: gwaith saer mainc lefel dau a gwaith coed lefel tri ar y safle.

Mae hi’n dweud bod ei thiwtoriaid wedi bod yn gefnogol iawn, wedi darparu deunyddiau ac wedi cyfrannu eu profiadau.

“Rwyf wedi teimlo fy mod yn cael fy nghefnogi’n llwyr, ac mae hyn wedi rhoi pŵer i mi drwy gydol y gystadleuaeth ac mewn bywyd”.

Cadarnhaol

Mae gan Sammy neges gadarnhaol i ferched sy’n ystyried ymuno â’r sector adeiladu neu fynd ar drywydd eu breuddwydion yn gyffredinol.

“Byddwn i’n annog menywod i fynd i’r byd adeiladu yn union fel y byddwn i’n annog menywod i fynd i unrhyw beth maen nhw eisiau ei wneud. Ni ddylai’r ffaith eich bod chi’n fenyw eich cyfyngu chi mewn unrhyw fodd.

“Does dim cyfyngiadau ar fod yn ferch. Mae’n groesawgar ac mae lle i fenywod yn y diwydiant adeiladu”.

Gallwch chi weld Sammy’n gweithio yn y fan yma

Os yw stori Sammy wedi ennyn eich diddordeb yn y byd adeiladu, ewch i wefan Go Construct i weld cyfleoedd am hyfforddiant.