Facebook Pixel
Skip to content

Marlène yn cael blas ar amrywiaeth wrth gyrraedd rownd derfynol Adeiladu Sgiliau

Ennill sgiliau’n gyflym ym mhob agwedd ar grefft yw hanfod bod yn brentis.

Mae Marlène Lagnado, sydd wedi cyrraedd rownd derfynol Adeiladu Sgiliau, yn enghraifft wych o fanteision prentisiaethau – a’r cyfleoedd mae adeiladu’n eu cynnig.

Mae Marlène, sy'n 26 oed ac yn brentis gwaith saer maen, yn cyfuno ei hastudiaethau yng Ngholeg Efrog gyda gwaith i Matthias Garn Master Mason and Partner.

Mae sgiliau Marlène yn blodeuo ac yn talu ar eu canfed.

Ym mis Tachwedd, bydd yn teithio i Gaeredin ar gyfer Adeiladu Sgiliau 22, cystadleuaeth sy’n cael ei disgrifio fel “Gemau Olympaidd y byd adeiladu”.

Adeiladu Sgiliau, sy’n cael ei ddarparu gan Fwrdd Hyfforddi’r Diwydiant Adeiladu, yw’r gystadleuaeth sgiliau aml-grefft fwyaf yn y Deyrnas Unedig ar gyfer hyfforddeion a phrentisiaid adeiladu.

Aeth Marlène ymlaen i’r rowndiau terfynol drwy rownd ragbrofol rithiol ym mis Mai.

Erbyn hyn, mae ei golygon yn troi at Gaeredin, a breuddwyd o weithio yn Ewrop.

Cwmpas

"Rwy’n lwcus fy mod i’n gweithio mewn cwmni cadwraeth anhygoel,” meddai Marlène.

“Mae gennym wahanol safleoedd - eglwysi o gwmpas East Riding Swydd Efrog yn bennaf. Rydw i naill ai yn y gweithdy, yn gweithio ar waith maen banc ar gyfer carreg newydd ar gyfer tasg, neu ar safle lle rydw i’n gosod gwaith maen cymhleth, yn atgyweirio cerrig neu’n pwyntio ac yn defnyddio calch.

“Rwy’n cael profiad o bob agwedd ar y grefft.”

Mae cwmpas gwaith Marlène yn golygu ei bod yn cael ei herio’n barhaus, proses sy’n ei gweld yn dysgu sgiliau trawiadol iawn.

“Mae’n anodd dweud a yw’n well gen i waith maen neu drwsio ar y safle. Rydw i’n hoffi amrywiaeth y swydd,” meddai.

“Mae gwaith maen banc yn gofyn am sgiliau, gan gynnwys amynedd, ymarfer a ffocws dwfn.

“Rwyf hefyd wrth fy modd fy mod yn gweithio ar wahanol safleoedd gan ei fod yn fy helpu i wella fy nealltwriaeth o hanes a phensaernïaeth adeiladau, ynghyd â gwella fy sgiliau cadwraeth.”

Mae Marlène, a enwebwyd ar gyfer gwobr Adeiladu Sgiliau gan ei thiwtor coleg, Paul Hill, yn herio ei hun i gynhyrchu gwaith cyflym a manwl - sgil anodd pan ystyrir pob agwedd ar waith saer maen.

“Y peth anoddaf am fod yn brentis yw cymhathu’r holl wybodaeth sydd ei hangen yn y grefft,” meddai.

“Rwy’n deall y bydd yn cymryd blynyddoedd ar ôl cwblhau’r brentisiaeth cyn y byddaf yn teimlo fel saer maen cymwys. Mae cymaint i’w ddysgu a’i brofi.”

Cefnogol

Mae Marlène yn llawn canmoliaeth i’w phenaethiaid yn Matthias Garn Master Mason and Partner.

“Mae fy fforman, David Switalla, yn gefnogol iawn,” meddai Marlène.

“Mae’r cwmni yn trin prentisiaid yn dda. Mae’r meistri’n deall pwysigrwydd rhannu eu gwybodaeth. Maent eisiau i brentisiaid ddysgu cymaint ag y gallant a chael yr hyfforddiant gorau.

“Yn aml, rydw i’n cael cynnig gwaith ar ddarnau gwaith maen nad ydynt yn cael eu cynnig i brentisiaid yn aml. Rwyf hefyd yn cael fy anfon i safleoedd gyda thiwtora agos i ddysgu mwy am y grefft."

Ewrop

Mae Marlène yn dweud, er ei bod hi’n mwynhau gweithio o fewn amserlenni tynn, bod Adeiladu Sgiliau wedi bod yn brofiad heriol iddi.

“Dydw i erioed wedi gweithio dan gyfyngiadau amser mor dynn,” meddai.

“Cefais lawer o hwyl yn ystod y rowndiau rhagbrofol, gan geisio deall y lluniad, gwneud templedi a meddwl am y gwahanol gamau. Yn y prynhawn, roeddwn i dan dipyn o straen o ran y cyfyngiadau amser. Roedd yn tarfu ar fy ffocws ac yn fy arafu.”

Dywed Marlène y bydd cystadlu yn Adeiladu Sgiliau yn gwella ei hyder ac yn ei gwneud yn well saer maen, gyrfa gyffrous a llawer o deithio o’i blaen o bosibl,

“Hoffwn gymrodoriaeth yn y Gymdeithas Gwarchod Adeiladau Hynafol,” meddai. “Hoffwn hefyd fynd ar daith yn gweithio mewn gwahanol gwmnïau ledled Ewrop.”

Oes gennych chi ddiddordeb mewn bod yn saer maen? Gall seiri maen hyfforddedig gyda phrofiad ennill £25,000 - £35,000. Mae ein gwefan Am Adeiladu yn cynnwys yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch.

Ar ôl hwylio drwy’r rowndiau rhagbrofol rhanbarthol, bydd Marlène yn cystadlu yn erbyn mwy na 85 o ymgeiswyr sydd wedi cyrraedd rownd derfynol Adeiladu Sgiliau 2022. Bydd Adeiladu Sgiliau, sy'n cael ei ddisgrifio fel ‘Gemau Olympaidd y byd adeiladu yn y Deyrnas Unedig’, yn cael ei ddarparu gan CITB, ar y cyd â WorldSkills, a bydd yn cael ei gynnal yng Ngholeg Caeredin rhwng 14 ac 17 Tachwedd.

Breuddwyd Marlène, sy’n brentis gwaith saer maen, yw gweithio i wahanol gwmnïau ledled Ewrop.