Facebook Pixel
Skip to content

Gwasanaethau Ymchwil Pwrpasol

Mae ein gwasanaethau ymchwil pwrpasol yn helpu cwsmeriaid a rhanddeiliaid y diwydiant i gael budd o brofiadau ei gilydd a chyflawni canlyniadau cadarnhaol sy'n gwneud elw.

Mae prosiectau adeiladu llwyddiannus yn dangos llwyddiant ac yn arbed amser yn y ffyrdd canlynol:

  • Dilyn arfer da wrth gynllunio
  • Pennu'r safonau a'r targedau cywir
  • Defnyddio data cywir a pherthnasol

Drwy gyfeirio at yr ymchwil gywir, gellir gwella ansawdd prosiectau adeiladu, arbed amser ac arian, a mynd i'r afael â'r materion sy'n gwneud y gwahaniaeth o ran llwyddo neu fethu.

Gweithio gyda CITB 

Mae gennym amrywiaeth o adnoddau unigryw, data, ymchwil a thechnegau rhagamcanu sy'n darparu atebion ymchwil wedi'u targedu o ran anghenion sgiliau a swyddi.

Fel y Cyngor Sgiliau Sector ar gyfer adeiladu, gallwn ddarparu'r canlynol:

  • Arbenigedd ym mhob rhan o'r diwydiant
  • Gwybodaeth heb ei hail a rhwydwaith o arbenigwyr
  • Mynediad i ddata unigryw

Pwy ddylai defnyddio gwasanaethau ymchwil pwrpasol?

Gall ein gwasanaethau helpu'r sawl sy'n gyfrifol am raglenni adeiladu a seilwaith, hyfforddiant cysylltiedig ac asesu buddiannau economaidd.

Rydym hefyd yn gweithio gydag awdurdodau lleol a sefydliadau yn y sector cyhoeddus sy'n caffael gwasanaethau adeiladu ac sydd angen dangos buddiannau cymunedol, fel cysylltiadau i greu swyddi a sgiliau yn lleol.

Help a chyngor

I ddechrau, bydd ymchwilydd yn trafod eich gofynion ac yn helpu i bennu'r allbynnau a'r canlyniadau rydych yn chwilio amdanynt.

Yna, gallwn gynnig amrywiaeth o atebion, ond byddwch fel arfer yn cael adroddiad ac argymhellion sy'n cynnwys tystiolaeth o waith dadansoddi cenedlaethol a lleol.

Bydd ein hargymhellion yn eich helpu i wneud penderfyniadau pwysig ynghylch eich prosiect, a byddwn yn dilyn hynny drwy wneud gwaith ymgynghori pellach a darparu rhagor o gymorth.

Buddiannau ychwanegol

Yr ateb syml yw bod ymchwil yn helpu i leihau risg. Mae'n sicrhau bod prosiectau adeiladu yn cael eu diffinio yn unol â gwybodaeth gywir a pherthnasol i'ch helpu i wneud penderfyniadau.

Mae gwaith ymchwil yn defnyddio'r canlynol:

  • Model y Rhwydwaith Sgiliau Adeiladu (CSN), sy'n darparu cyfernodau llafur unigryw a ddatblygwyd ar gyfer saith is-sector yn y diwydiant i ragamcanu anghenion sgiliau rhanbarthol a chenedlaethol manwl
  • Dadansoddiad manwl cyfredol o'r materion economaidd rhanbarthol sy'n effeithio ar y diwydiant adeiladu
  • Llunio rhagamcanion allbynnau a swyddi adeiladu hyd at 2020
  • Adnodd Rhagamcanu Llafur, sy'n hynod ddefnyddiol, ac yn creu proffiliau sgiliau ar gyfer prosiectau adeiladu
  • Darluniau gwirioneddol o brosiectau adeiladu ar gyfer sgiliau yn eich rhanbarth
  • Data symudedd y gweithlu, sy'n diffinio'r modd y mae pob proffesiwn yn dilyn prosiectau a gwaith ledled y DU
  • Data a gwaith dadansoddi ar gyflenwi sgiliau a hyfforddiant y gweithlu ar gyfer pob 'math' a lefel (dim ond ar gael i Gynghorau Sgiliau Sector)

Sicrwydd a chymwyseddau

Darperir holl wasanaethau ymchwil CITB gan dîm ymroddedig o arbenigwyr sydd â chymwyseddau technegol a phrosiect eithriadol.

Maent yn creu rhwydwaith cenedlaethol o arbenigwyr sydd â mynediad i setiau unigryw o ddata a meincnodau prosiectau adeiladu rhyngwladol.

Mae gan ein holl ymchwilwyr gymwysterau'r Gymdeithas Ymchwil y Farchnad a'r Gymdeithas Ymchwil Gymdeithasol. Mae'r Rheolwr Ymchwil hefyd yn aelod o Sefydliad Siartredig Gweithwyr Llyfrgell a Gwybodaeth Broffesiynol.

Tystebau cleientiaid

Mae dwsinau o fentrau sy'n ymwneud ag adeiladu wedi cael budd o ddealltwriaeth, sicrwydd ac arweiniad ein gwasanaethau ymchwil.

“Yn ystod y cyfnod hwn o newid, pan rydym yn chwilio am werth, ansawdd ac effaith, mae'n bwysig ein bod yn sicrhau'r budd mwyaf o unrhyw fuddsoddiad. Cefnogir hyn orau gan ymchwil drwyadl sy'n arwain at wneud penderfyniadau sy'n seiliedig ar dystiolaeth. Enghraifft o hyn yw'r defnydd o Wybodaeth am y Farchnad Lafur a ddarperir gan CITB i ragfynegi buddsoddiad prifysgolion mewn addysg a hyfforddiant ar gyfer y diwydiant adeiladu. Mae hyn yn sicrhau bod doniau'r dyfodol yn cael eu cynnal fel bod y buddsoddiad mewn adeiladu a gyhoeddwyd gan y llywodraeth yn gallu cael ei gyflawni drwy weithlu sydd â chymwysterau addas.” 

Yr Athro Barry Clarke, Cyfadran Peirianneg Sifil, Prifysgol Leeds ac Uwch Is-Lywydd Sefydliad y Peirianwyr Sifil

"Mae'r ymchwil a ddarparwyd gan CITB wedi bod yn amhrisiadwy o ran meithrin gwell dealltwriaeth o'r ddynameg sy'n effeithio ar y sector adeiladu yng Nghymru. Mae'r ymchwil fanwl wedi helpu i flaenoriaethu gwaith y Fforwm a thargedu ein gweithgarwch yn y ffordd orau bosibl.”

Chris Hughes, Cyfarwyddwr Gweithredol Fforwm Amgylchedd Adeiledig Cymru, Llywodraeth Cymru

“Rwyf wir yn gwerthfawrogi gwaith dadansoddi meintiol y Rhwydwaith Sgiliau Adeiladu a wneir gan Dîm Ymchwil SgiliauAdeiladu ar anghenion sgiliau'r diwydiant adeiladu yn y dyfodol. Mae ei fodel economaidd annibynnol yn defnyddio adborth gan arbenigwyr yn y diwydiant, fel nad oes rhaid i ni mwyach ddibynnu ar reddf a phrofiadau unigol. Mae hyn hefyd yn hwyluso'r broses o asesu tueddiadau hirdymor.” 

John Laverty, Cyfarwyddwr Rhanbarthol De-ddwyrain Lloegr, Sefydliad y Peirianwyr Sifil

Cysylltu â ni

Am ragor o wybodaeth am sut y gall CITB helpu eich sefydliad i ddatblygu mewn ffordd fwy effeithlon a llewyrchus, cysylltwch â Sandra Lilley ar: 

Ffôn: 07717 424709

E-bost: sandra.lilley@cskills.org