Facebook Pixel
Skip to content

Defnyddio ein hymchwil

Mae hawlfraint a phob eiddo deallusol arall sy'n bodoli yn y deunyddiau hyn yn aros yn gyfan gwbl gyda CITB. Cedwir pob hawl o'r fath.

Gallwch argraffu, copïo, lawr lwytho neu arbed eitemau o'r deunydd hawlfraint dros dro ar gyfer eich gwybodaeth bersonol yn unig, a gallwch dynnu sylw eraill o fewn eich sefydliad at gynnwys y deunydd hawlfraint.

Rhaid i chi beidio ag addasu'r copïau papur neu ddigidol o unrhyw ddeunyddiau rydych wedi'u hargraffu neu eu lawr lwytho mewn unrhyw ffordd, a rhaid i chi beidio â defnyddio unrhyw ddarluniau, ffotograffau, darnau fideo neu sain neu unrhyw raffeg ar wahân i unrhyw destun cysylltiedig.

Rhaid i chi beidio â defnyddio unrhyw ran o gynnwys y deunydd hawlfraint at ddibenion masnachol heb gael trwydded i wneud hynny gennym ni.

Rhaid cydnabod ein statws (a statws unrhyw gyfranwyr a nodwyd) fel awduron y deunydd hawlfraint bob amser.

Cywirdeb ac atebolrwydd

Crëir deunyddiau ymchwil gan ddefnyddio data a gwybodaeth a ddarperir i CITB gan drydydd parti ac felly nid yw CITB yn gallu rheoli na dilysu cywirdeb y data neu wybodaeth hon.

Yn unol â hynny, nid yw CITB yn rhoi unrhyw warant ynghylch cywirdeb neu addasrwydd y deunyddiau hyn ar gyfer unrhyw bwrpas penodol. Ymhellach, nid yw'r deunyddiau hyn yn cyfleu cyngor ac ni ddylid eu defnyddio fel sail unigol ar gyfer unrhyw benderfyniad busnes ac felly ni fydd CITB yn atebol am unrhyw benderfyniadau a gymerir ar eu sail.

Rydych yn cydnabod na ellir cymryd deunyddiau sy'n defnyddio data empirig ac/neu ddata ystadegol ac/neu fodelu data ac/neu dechnegau rhagweld i ddarparu data dangosol ac/neu ragfynegol fel gwarant o unrhyw ganlyniad neu ddeilliant penodol.

Ni fydd CITB yn atebol am unrhyw golled neu ddifrod uniongyrchol, anuniongyrchol neu ganlyniadol o gwbl, sut bynnag y'i hachosir, a all ddeillio o'ch defnydd, neu anallu i ddefnyddio, neu ddibyniad ar y deunydd hawlfraint hwn, neu unrhyw wybodaeth a ddolennir ynddo, cyn belled ag y caniateir yn ôl y gyfraith.