Facebook Pixel
Skip to content

Canlyniadau'r chwiliad

Wedi canfod 47 prosiect a ariennir. Caiff prosiectau a ariennir eu didoli mewn trefn gronolegol o chwith.

I gael gwybodaeth bellach ar bob prosiect, dewiswch deitl y prosiect

Cwrs Hyfforddwr Carbon
Thema ariannu:

Arloesedd

Pwnc ariannu:
Newid diwylliant y diwydiant, Cynhyrchiant a dulliau newydd o weithio, Cefnogaeth i gyflogwyr bach, Cymwysterau a chyrsiau newydd
Arweinydd y prosiect:
Esh Construction
Swm a ddyfarnwyd:
£34,600
Crynodeb diwedd y prosiect:

Bydd y prosiect yn datblygu 'Cwrs Hyfforddwr Carbon', bydd y cwrs hwn yn rhaglen sgiliau gynhwysfawr ar gyfer prentisiaethau adeiladu, gan gyflwyno'r mater o leihau carbon ac arfer gorau rheolaeth ynni i fynychwyr.

Bydd y prosiect yn paraoi'r diwydiant i ymateb i'r amcan 2025 'Gyrru Carbon allan o'r Amgylchedd Adeiledig 2025'.

Fframwaith Arweinyddiaeth Gydaweithredol Adeiladu
Thema ariannu:

Arloesedd

Pwnc ariannu:
Newid diwylliant y diwydiant, Technoleg ddigidol a newydd, Gyrfaoedd a recriwtio, Adnoddau dysgu, Sectorau a rolau, Cefnogaeth i gyflogwyr bach, Cymwysterau a chyrsiau newydd, Arwain a Rheoli
Arweinydd y prosiect:
Scottish Building Federation [Ffederasiwn Adeiladu'r Alban]
Swm a ddyfarnwyd:
£120,840
Crynodeb diwedd y prosiect:

Bydd y prosiect yn darparu ymagwedd radicalaidd at arweinyddiaeth gydweithredol arnom yn seiliedig ar fodelau arfer gorau byd-eang sydd eisoes yn bodoli ac yr arferion sy'n dod i'r amlwg er mwyn bod yn gymwys yn y byd cysylltiedig ag aflonyddgar, o bosib, hwn.

Bydd yn cydweithredu â rhanddeiliaid allweddol i ddatblygu datrysiadau ar y cyd ar heriau ynghylch bylchau sgiliau, y diwydiant a heriau cymdeithasol. Bydd y cydweithredu'n arwain at fframwaith sy'n cyd-fynd â'r heriau a'r cyfleoedd sy'n wynebu'r diwydiant a'i safle yn y gymdeithas ehangach.

Cod defnyddwyr ar gyfer adeiladwyr cartrefi
Thema ariannu:

Arloesedd

Pwnc ariannu:
Cynhyrchiant a dulliau newydd o weithio, Sectorau a rolau, Cefnogaeth i gyflogwyr bach, Adnoddau dysgu
Arweinydd y prosiect:
Ffederasiwn Adeiladwyr Cartrefi [Home Builders Federation]
Swm a ddyfarnwyd:
£20,000
Crynodeb diwedd y prosiect:

Y prosiect hwn yw'r cyntaf o'i fath, a bydd yn darparu offer i adeiladwyr cartrefi i hyfforddi eu staff yng nghod Rheoleiddio Diogelu Defnyddwyr.

Mae hyn yn cynnwys cyfrifoldebau i'r prynwr cartref a'u dyletswyddau wrth hysbysu'r prynwr cartref am yr holl faterion sy'n effeithio ar eu penderfyniad prynu.

Gwneir hyn trwy e-ddysgu a gweminarau ar-lein a bydd yn galluogi mwy o staff i gael eu hyfforddi'n fwy effeithlon