Facebook Pixel
Skip to content

Canlyniadau cyllid CITB

Dros y tair blynedd diwethaf, mae CITB wedi dyfarnu £62m i brosiectau sy'n gwella safonau hyfforddi, recriwtio, cynhyrchiant, a'r defnydd o dechnoleg newydd yn y diwydiant adeiladu.

Dosberthir ein cyllid trwy'r gronfa Sgiliau a hyfforddi.

Cyhoeddir crynodebau o ganlyniad ein cyllid yn rheolaidd.

Mae manylion effaith y gronfa Sgiliau a hyfforddiant a chronfa prosiectau a Gomisiynwyd isod. Cyhoeddir manylion effaith hyfforddiant arloesi cydweithredol maes o law.

Mae ein cronfa Sgiliau a hyfforddiant wedi dyfarnu bron i £14m ar gyfer ystod o brosiectau hyfforddi ers ei lansio yn 2015:

  • Mae 80% o'r cyllid wedi mynd i fusnesau adeiladu sydd â llai na 50 o weithwyr
  • Mae 60% o'r cyllid wedi mynd i brosiectau yn Lloegr, gyda phrosiectau yn yr Alban a Chymru yn cael 28% a 12% o'r cronfeydd yn y drefn honno
  • Mae 19% o'r cyllid wedi mynd i brosiectau sy'n helpu gweithwyr dros 50 oed i gadw ar y blaen â'u sgiliau a'u gwybodaeth fel y gallant barhau i fod yn gynhyrchiol yn y diwydiant
  • mae dros 2,000 o weithwyr wedi elwa o brosiect a ariannwyd gan gronfa Sgiliau a hyfforddiant yn 2018-2019 yn unig.

Mae cyflogwyr y dyfarnwyd arian iddynt o'r gronfa hon wedi bod yn hynod gadarnhaol ynghylch yr hyn y mae'r cyllid hwn wedi'i olygu iddynt hwy a'u busnes.

“Rydyn ni wedi cynyddu nifer y gweithwyr medrus yn ein cwmni ac mae staff yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi. Mae ein cwmni mewn gwell sefyllfa i gystadlu mewn diwydiant heriol sy'n datblygu ac rydym wedi llwyddo i gynnig am gontractau newydd. "
Cawarden Co Ltd, Lloegr

“Fe wnaeth yr hyfforddiant ein galluogi ni i ddangos ymrwymiad i ddysgu a datblygu, cadw aelodau allweddol o staff trwy gynnig cyfleoedd iddynt symud ymlaen a gwella ein brand yn y sector.”
Hadden Construction Ltd, yr Alban

“Gellir dadlau mai'r effaith fwyaf yw sut mae'r hyfforddiant rydym ni wedi gallu ei gael wedi ein helpu ni i ennill mwy o gontractau. Gan ein bod yn gallu derbyn safon uwch o hyfforddiant, rydym yn gallu bodloni disgwyliadau cleientiaid a rhagori arnynt. ”
Manning Construction Ltd, Cymru

Mae rhestr o brosiectau a ariennir gan Sgiliau a hyfforddiant a'r canlyniadau cysylltiedig o 2016 hyd yma ar gael i'w lawrlwytho.