You are here:
Sut rydym yn defnyddio'r lefi
Mae CITB yn defnyddio'r lefi i:
- cefnogi datblygiad hyfforddiant trwy grantiau a chyllid.
- hyrwyddo'r diwydiant adeiladu fel dewis gyrfa gwych a chynnig prentisiaethau o ansawdd uchel.
- dynodi anghenion sgiliau ar draws y diwydiant adeiladu.
- datblygu safonau a chymwysterau galwedigaethol.
Mae'r lefi CITB yn cefnogi diwydiant adeiladu Prydain i ddatblygu'r gweithlu medrus sydd arno ei angen.
Sut mae cyllid lefi yn cael ei ddosbarthu ar draws y diwydiant
Mae'r tabl isod (data o ystadegau blynyddol 2017-2018) yn dangos sut mae cyllid lefi yn cael ei ddosbarthu i gyflogwyr adeiladu o bob maint i gefnogi hyfforddiant:
- Cyflogwyr micro: 1 i 9 o weithwyr
- Cyflogwyr bach: 10 i 49 o weithwyr
- Cyflogwyr canolig: 50 i 249 o weithwyr
- Cyflogwyr mawr: 250+ o weithwyr
Categori | Cyflogwyr micro | Cyflogwyr bach | Cyflogwyr canolig | Cyflogwyr mawr | Arall | Cyfanswm |
---|---|---|---|---|---|---|
Cyllid lefi gan gyflogwyr | £45.7m | £50.9m | £51.1m | £63.4m | - | £211.3m |
Grantiau a chymorth CITB ar gyfer hyfforddiant | £26.2m | £32.5m | £47.8m | £72.6m | Ddim yn hysbys | £181.8m |
Nifer y cyflogwyr sy'n hawlio cymorth grant a chymorth arall | 9,159 | 5,162 | 1,422 | 265 | 907 | 16,919 |